Mae PBwiki yn defnyddio dull fformatio wiki syml. Gallwch glicio ar y ddolen "view page source" yn y troedyn i weld sut mae'r dudalen hon wedi ei fformatio.
Fformatio Testun
Rhestrau
- Mae un * (seren) + bwlch ar ddechrau llinell yn creu pwynt bwled, fel hyn.
- Defnyddiwch # + bwlch ar ddechrau llinell i wneud rhestr wedi'w rifo, fel hyn.
- Gallwch greu is-restrau fel hyn drwy ddyblu'r * neu'r # ar gyfer isbwyntiau
Fformation Nodau
Mae fformatio nodau yn hawdd:
- I wneud rhywbeth yn drwm, rhowch 2 * (seren) cyn ac ar ei ôl: **gair**
- I italeiddio rhywbeth, rhowch 2 ' (collnod) cyn ac ar ei ôl: ''gair''
- Drwy ddefnyddio 2 _ (tanlinelliad) cyn ac ar ôl, gelli'r tanlinellu testun: __gair__
- Gallwch gael
llinell drwodd gyda (bwlch +) 1 - (dash) cyn a 1 - (llinell doriad) (+ bwlch) wedi'r testun: -gair-
Dyma gipolwg:
| Effaith | Cyn | Testun | Ar ôl |
| Trwm | ** | gair | ** |
| Italig | '' | gair | '' |
| __Tanlinelliad__ | __ | gair | __ |
Llinell trwodd | - | gair | - |
Adrannau
- Un ! ar ddechrau llinell i wneud pennawd mawr iawn (fel "Fformatio Testun" uchod)
- Dau !! i wneud pennawd mawr (fel "Adrannau" dros yr adran Adrannau fan hyn)
- Tri !!! a mwy--hyd at 6--i wneud penawdau llai a llai
Eraill
- Mae rhoi 1 | (bar fertigol) cyn ac ar ôl rhywbeth yn rhoi blwch o'i amgylch
- Mae rhoi 3 - (cysylltnod) mewn rhes ar ben eu hunain yn gwneud llinell wahanu (llinell lorweddol) fel yr un o dan y blwch testun isod
Gwnei'r blwch fel hyn drwy roi bwlch o flaen y llinell. Os nad yw'n gweithio, ceisiwch ychwanegu llinell wag cyn/ar ei ôl.
Dolenni
- Os defnyddiwc ddwy briflythyren mewn gair gyda islythrennau rhyngddynt, bydd PBwiki yn adnabod y gair fel dolen at dudalen. Er engrhaifft, mae LookFunny a SandBox yn ddolenni at dudalennau, ond dyw sandbox a Sandbox ddim. Os ydych yn defnyddio gair fel FunnyWord ond nid ydych wedi creu tudalen o'r enw FunnyWord, gallwch greu'r dudalen yna drwy ddim ond clicio ar y gair. (Nes i dudalen gael ei greu, bydd gan y ddolen danlinelliad torredig. Fel yma gallch weld yn glir pa dudalennau sydd wedi eu creu a pha rai sydd heb.) Ar y llaw arall, i rwystro gair rhag bod yn ddolen, ychwanegwch ~ o'i flaen.
- Gallwch hefyd deipio neu ludo URL fel http://pbwiki.com/ neu rhoi cromfachau [ ] o gwmpas gair. Bydd cromfachau yn gorfodi'r gair i fod yn ddolen hyd yn oed os nad yw yn arddull FunnyWord.
- Gallwch harddu dolenni drwy ddefnyddio cromfachau [ ] a |, fel [http://pbwiki.com/|PBwiki] i gael PBwiki.
- Teipiwch gyfeiriadau e-bost fel support@pbwiki.com.
- Neu teipiwch nhw a'u harddu drwy ychwanegu cromfachau: Mae [support@pbwiki.com|help!!] yn rhoi help!!.
- Gelli'r creu dolen "top" arbennig (i ddychwelyd defnyddiwr at ben y dudalen) gyda <top>. Gelli'r addasu'r ddolen drwy ychwanegu eich disgrifiad dolen eich hun rhwng y cromfachau onglog: <disgrifiad dolen top>.
Lluniau
- Gallwch arddangos lluniau ar eich wiki. Ychwanegwch ddolen at y llun mewn cromfachau [ ]! Er engrhaifft, mae [http://pbwiki.com/sandwch2.jpg] yn rhoi:
Uwchlwytho Ffeiliau
- Gelli'r rhoi dolen at ffeiliau uwchlwythedig yn yr un ffordd a phopeth arall--does ond angen lleoliad (URL) y ffeil. Gallwch ddarganfod rhestr o'r holl ffeiliau rydych wedi uwchlwytho at eich wiki drwy ddewis y ddolen 'Files' ar ben neu waelod y dudalen. Tra yno, dde-gliciwch ar ddolen feil i gopïo ei URL.
Tablau
- Gelli'r creu rhesi tabl drwy ychwanegu | (bar fertigal) ar ddechrau a diwedd llinell. Mae cynnwys rhes yn cael ei osod rhwng y bariau. Os oes angen mwy nag un cell mewn unrhyw res, defnyddir | fel gwahanydd.
| Edrychwch Mam! | Dyma dabl!! |
- Bydd tablau cyfagos yn cael eu huno'n awtomatig i greu un tabl unigol.
Tabl cynnwys
- Gelli'r creu tabl gyda dolenni at holl adrannau (!, !!, a !!!) y dudalen drwy fewnosod <toc> ble bynnag hoffech weld y tabl. Gweler top y dudalen yma er engrhaifft.
- Er mwyn creu table gyda dim ond dolenni at y prif (!) benawdau, defnyddiwch <toc!>.
- Er mwyn creu table gyda dim ond dolenni at y prif bennawdau a'r ail-brif bennawdau (! a !!), defnyddiwch <toc!!>.
Defnyddio WikiStyle Characters Normally
- Mae'r tagiau <raw> a <verbatim> yn rhwystro PBwiki rhag dehongli nodau arbennig fel ** cyn ac ar ôl gair, a fyddai fel arfer yn gwneud y gair ymddangos yn drwm. Ar gyfer darnau testun byr (ychydig eiriau), defnyddiwch <raw>; ar gyfer darnau hirach, defnyddiwch <verbatim>.
- Mae'r tagiau hyn yn ymddwyn fel tagiau HTML gan bod tag agoriadol a thag cau, y tag agoriadol cyn y testun a'r cau wedi'r testun: <raw>**geiriau nad ydynt yn drwm**</raw>.
Mwy
- I arddangos rhifydd golwg ar gyfer tudalen, mewnosodwch <views> ble hoffech iddo ymddangos.
- I greu dolen at dudalen ar hap, mewnosodwch <random>
- Mae PBwiki yn derbyn HTML, felly os oes rhywbeth hoffech wneud na elli'r ei wneud gyda WikiStyle--ac rydych yn gyfarwydd â HTML--ewch amdani!
Tudalennau Arbennig
- Mae RecentChanges (Y ddolen 'Changes' ar dop a gwaelod y dudalen) yn dangos yr holl newidiadau sydd wedi'w gweneud i'r wiki.
- Mae AllPages yn rhestru holl dudalennau'r wiki. Mae dewis "except revisions" ar ben AllPages yn arddangos fersiynau cynharach o'r tudalennau hefyd. AllPages yw'r lle i fynd hefyd of ydych eisiau dileu tudalen neu addasiad.
- Gelli'r addasu'r SideBar sy'n ymddangos yn y gornel dde uchaf fel unrhyw dudalen arall yn y wiki. Os nad oes gyda chi SideBar, ychwanegwch dudalen o'r un enw ac ychwanegu rhywbeth ato.